Ar hyn o bryd mae dros 100 o gyfranddalwyr, y rhan fwyaf yn byw ac yn gweithio’n lleol yn Ninbych a Chonwy.
Yn ogystal a bod o fudd i fuddsoddwyr lleol, mae’r cwmni hefyd yn bwriadu buddsoddi yn y gymuned.
Trwy gyfrwng y Sefydliad Vestri CBC, (Cwmni Budd Cymunedol), bydd cyfran o incwm blynyddol prosiectau ynni gwynt
y cwmni yn cael ei ddarparu er lles y cymunedau lleol. Mae strwythur annibynnol Vestri yn sicrhau fod yr arian yn
cael ei luosogi trwy arian cyfatebol a bod pobl leol yn mynegi eu barn ynghylch sut y mae’r arian yn cael ei
ddefnyddio.
Mae aelodau Bwrdd Ynni Gwynt Cymru wedi eu dewis oherwydd eu harbenigedd ym meysydd technoleg, rheoli, marchnata
a rheolaeth ariannol. Mae’r holl gyfarwyddwyr wedi ymrwymo’n bersonol i’r cymunedau lleol ac i warchod yr amgylchedd
ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Ynni Gwynt Cymru yn gwmni unigryw, o dan berchnogaeth leol sydd wedi ei leoli yn Llangernyw,
Gogledd Cymru. Ein gweledigaeth yw dod â’r budd o cynhyrchu ynni glân i’r gymuned a’r economi lleol,
tra yn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd.
Cawsom ein sefydlu yn 2004, a’i brif gyfranddeiliaid yw ffermwyr a phobl busnes lleol sydd wedi eu
lleoli yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Ers hynny, mae nifer o gyfranddeiliaid wedi ehangu drwy Gynnig
Cyfranddaliadau Cyhoeddus i gynnwys pob math o bobl ledled Cymru.
Mae ein strwythur perchnogaeth yn golygu fod pobl leol yn cael dweud eu dweud am y cwmni a’i
brosiectau. Mae nhw hefyd yn cael rhanu’r budd o’r prosiectau sydd wedi eu lleoli yn eu hardal.






























